Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PLANT Y RHOS.

PA le, pa le mae plant y Rhos?
Y plant fu'n chwareu gynt
Ar fin Cymerig fechan dlos
Tra dawnsiai ar ei hynt;
Er chwilio hyd ei glanau hi,
Nis gallaf wel'd ond dau neu dri
O'r plant fu'n chwareu gyda mi—
Hoff blant yr amser gynt.

Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Fu'n casglu blodau blydd,
Y briaill hardd—'ddiar war y ffos,
A'r dwyfol lygaid dydd;
Wrth syllu ar y blodau cun
O gylch y fan—'rwy'n gwel'd fy hun
Yn blentyn unig gwael fy llun
Yn welw iawn fy ngrudd.

Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Y plant fu'n lloni'r llan
A'u hoffus seiniau gyda'r nos
Wrth fyn'd o fan i fan;
Er gwrando'n astud am y gân,
Ni chlywaf hon—'rwy'n methu'n lân
A chlywed swn y plantos mân
Fu gynt yn lloni'r llan.

Pa le, pa le mae plant y Rhos?
Nis gwn, nis gwn pa le,
Ond murmur yr afonig dlos
A dd'wed mai yn y ne';
Wrth wrando'n ddistaw lais y don
Daw ffrwd o gysur i fy mron,
A gobaith dd'wed yn hyf wrth hon
Fod yno eto le.