IFOR WYN O'R HAFOD ELWY
(Bugeilgerdd)
AR noson oer auafol yn Hafod Elwy lân,
Eisteddai teulu Owen Wyn wrth danllwyth mawr o dân.
Ymdaena gwen o falchder tros wyneb Owen Wyn
Tra'n gwrando ar y plantos mân yn cyfrif rhif y myn,
Adgofiai hyny iddo am flwyddi o fwynhad
A dreuliodd yntau'n moreu'i oes i wylio praidd ei dad;
A chyda llais crynedig, dywedodd wrth y plant
Am lawer o helyntion blin ddigwyddodd ger y nant;
Ac erbyn hyn distawrwydd deyrnasai yn y ty,
Er mwyn cael clywed taid yn dweyd hoff hanes Cymru " Fu.
'Mae,' ebai , ddeugain mlynedd er pan ' own gyda'm tad
Yn eistedd ar y Mynydd Du, yn syllu ar y wlad;
Ac o'r olygfa swynol a welid ar bob llaw,—
Y defaid mân yn chwareu 'n llon ar fron y Moelwyn draw,
Islaw y dyffryn wenai'r un fath ag Eden gynt,
A miwsig yr afonig sydd yn d'od ar fraich y gwynt;
Draw yn y pellter gwelid y Llyn a'i glawr fel drych
Yn dangos y mynyddoedd ban ar lawnt ei donau crych,
Gerllaw, ar fin y tonau ' roedd Eglwys hen y plwy
Yn taflu ei chysgodion hardd o un i fod yn ddwy.
'Ond,' ebai'm tad yn sydyn—'A weli di y llwyn
O goed sydd tu 'cha'r fynwent werdd ar lan yr uwchaf dwyn?
'Rwy'n cofio pan yn fachgen, i'th daid fy anfon i
Ar noson loergan ddiwedd ha', yng nghwmni hoff fy nghi,
I ' nol rhyw yrr o ddefaid o ffermdy Hendre mawr,
Fel gallwn gychwyn adre'n ol ar doriad cynta'r wawr.
Mae'n anhawdd i ti , Owen , ddychmygu'r braw a ges',
Pan welwn na ddoi Cymro'r ci ' run lathen ata i'n nes;
Edrychais o fy neutu,—a gwelais haner cant