Rhyw fan ddymunol ydyw 'r ardd i ddyn
I weled natur yn ei pherffaith lun,
Mae enaid anian yno ar bob llaw,
I'r Cristion, cysgod yw o'r byd a ddaw;
Y coedydd ffrwythlawn yno hefyd gawn
Yn gwyro 'i breichiau dan ei lluniaeth llawn:
Mae'r oll yn tystio gwerth y dwyfol Dad
Sy'n gwenu arnom ni o'r nefol wlad.
Pe gwybid beth yw'r ffrwythau mirain cun,
Trwy hyn ceir gwybod beth yw Duw a dyn;
Ond trefn anfeidrol ydyw hon nas gall
Y ddynolryw byth ganfod ynddi wall,
Na'i hefelychu chwaith, na thynu llun
Prydferthwch gardd 'r un fath a hi ei hun.
Pe mathrid dim ond deilen fechan gron,
Mae eisieu rhywun mwy na dyn at hon,
Er iddo trwy fug gelf wneyd pethau hardd,
Mae'n rhaid cael Duw i greu tlysineb gardd;
Er gosod dyn yn frenin byd, nid yw
Ond gwas mewn gair wrth alwedigaeth Duw;
Mae ef 'r un fath a'r ddeilen ddiwedd ha'—
Fe syrth i lawr, yn ol i'r pridd yr a;
Ond cyfyd dyn ar alwad udgorn Daw,
Ar foreu 'r farn fe 'i gwelir eto 'n fyw;
Fel blod'yn bydd y Cristion, O! mor hardd
Ei wedd, wrth draed yr lor, mewn dwyfol ardd.
Fel disglaer fod ar hynt o wlad goleuni,
Yr eira glân yn fantell guddia 'r gerddi;
Mae ynddo ef rhyw swyn dihalog weithian,
Gosoda fyrdd o berlau 'n nghoron anian.
O tan y glog mae'r tyfol fyd yn gorwedd
Mewn tawel hun, neu gwsg mewn unig anedd;
Mor bur yw'th wisg, ymwelydd, mor ddeniadol,
Wyt eilun o dlysineb gwisgoedd nefol.
Ha! eira glân, rhy bur wyt ti, 'rwy'n credu,
I aros yma'n hir mewn byd sy'n pechu;
Ti geidw yn ofalus yr holl hadau
Orweddant danat fel cuddiedig berlau:
Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/83
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon