Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amryliw flodau, wenant yn wastadol
O'u gorsedd glaer, fel pe mewn byd estronol,
Mae'r oll yn dangos i ni mor anrhaethol
Yw cariad Duw, at ddyn trwy drefn anianol.


Yng nghanol unigedd y mynydd,
Ar finion dymunol y nant:
Mae'r bwthyn sy'n fyw o lawenydd
Yn swn bendigedig y plant;
Diaddurn yw'r muriau gwyngalchog,
Er hyny ei berchen a chwardd
Wrth weled y gwanwyn toreithiog,
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.

'Does unman i'r gweithiwr mor anwyl
A'r llecyn wrth dalcen y ty,
Mae yno mor hapus a'r engyl,
O'i feddwl pob helbul a ffy;
Mae'n gweithio hyd wylnos yn serchog,
A theimla ei hunan yn fardd,
Wrth weled y gwanwyn toreithiog
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.

Ha! nefoedd i'r gweithiwr yw'r llecyn,
Sy'n llechu yn ymyl y ty,
Ac yno bob boreu o'r bwthyn
Y crwydrai i weled y llu,
Sy'n gwenu o garpet ardderchog.
Y ddaear mor swynol a hardd,
I'w gweled y gwanwyn toreithiog
Sy'n gwenu ar fynwes ei ardd.


Yr "Ardd," pa fan yn ngreadigaeth dwyfol ?
A hawlia fwy o glod gan yr hil ddynol,
Yn hon dioddefodd Crist, ddiniwed Iesu
Ing enaid, do nes iddo'n waedlyd chwysu.
Y Duw yn creu yr "Ardd," yr Eden swynol
I ddyn i fyw yn ddedwydd, er yn 'feidrol ;
Ond wele'r 'meidrol yn ngardd Gethsemane
Yn rhoi y Duw anfeidrol yno i ddiodde'.