PRYDDEST—ABERTH CRIST
YR haul ar foreu 'r greadigaeth ddaeth
I daflu gwen ar y tragwyddol draeth,
Ac ymlid mantell ddu'r gaddugawl nos
A wnaeth, gan redeg drwy'r ffurfafen dlos;
Fe giliodd dyfroedd yr eangder mud
Yn ol, pan wawriodd diwrnod cynta 'r byd,
Ac ysbryd Duw 'n ymsymud nwch y don
A roddodd fod i fyd ar fynwes hon.
Fe welodd Duw mai da oedd hyn i gyd,
A chreodd ddyn i arglwyddiaethu'r byd,
A dododd ef i fyw yn 'Eden Ardd'
Yn nghanol myrdd o flodau teg a hardd;
A phwyntel anfarwoldeb Duw ei hun
Fu 'n paentio tirwedd gartref cyntaf dyn.
Ha! cysegredig fan i'r dynol dad
Oedd Eden, darlun byw o'r nefol wlad;
Ond anufudd—dod dyn a'i taflodd ef
Am byth tan wg, ofnadwy wg y nef!
Trwy'r pechod hwn y cread aeth i gyd
I eigion dwfn trueni 'r erchyll fyd!
Ac nid oedd holl drysorau 'r ddaear gun
Yn ddigon gan y nef tros bechod dyn.
Fe drefnwyd ffordd, cyn llunio'r greadigaeth,
Gan Dad, a Mab, ac Ysbryd yn yr arfaeth:
Y cyngor boreu—yr Anfeidrol Drindod—
Fu 'n gosod dwyfol drefn i faddeu pechod;
Pan roddodd Crist i'r byd ei ddwyfol fywyd
Yn 'Aberth,' fe agorwyd ffordd i'r gwynfyd.
O fendigedig Geidwad! pwy ond Iesu
Allasai fod yn ddigon i'n gwaredu?
Ni feddai'r ddaear faith, na'r nefoedd wiwlan,
Un 'Aberth' ond yr Iesu mawr ei hunan
Yn ddigon i ofynion 'Duw y Lluoedd.'
Ac 'Wele fi,' medd arwr byd a nefoedd,
O'anfon fi' fy Nhad, 'rwyf fi yn ddigon
O Aberth, er mor fawr yw dy ofynion,—