Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SALMAU.

1. M. C. CYMREIG.

1 Y SAWL ni rodia dedwydd yw,
Yn ol drwg ystryw gyngor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,
Nid eiste 'n stol y gwatwor.

2 Ond ei holl serch ef sydd yn rhwydd
Ar ddeddf yr Arglwydd uchod;
Ac ar ei ddeddf rhydd, ddydd a nos,
Yn ddiddos ei fyfyrdod.

3 Ef fydd fel pren plan ar làn dol,
Dwg ffrwyth amserol arno;
Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda 'n berffaith iddo.

4 Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
A edwyn ffyrdd ffyddloniaid;
Ac ef ni ad byth i barâu
Mo lwybrau pechaduriaid.


1. M. H.

1 GWYN fyd yr hwn nid â ar hyd
Ffordd lydan annuwiolion byd;
Ni char gyfeillach gwyr di-ras,
Ni siarad fel gwatwarwyr cas.