2 Ond ei ddifyrwch penaf sydd
Yn nghyfraith Duw ar hyd y dydd;
A'r nos mewn oriau effro cair
Yn hoff fyfyrio yn y gair.
3 Bydd hwn fel pren wrth ddyfroedd byw,
Yn las ei ddail yn eglwys Dduw;
A bendith hylwydd fry o'r nef
Fydd ar holl waith ei ddwylaw ef.
4 Ond pechaduriaid drwg eu hynt,
Fel us a chwalir gan y gwynt;
Eu gobaith ffol a'u hyder ffy,
Pan seinio 'r udgorn oddi fry.
5 Ffordd y rhai cyfiawn uniawn yw,
A hon adwaenir gan eu Duw;
Ond llwybrau croes gelynion Crist
Sy'n tywys i'r trueni trist.
2. M. C. C.
1 PAHAM y terfysg gwyr y byd?
A pha'm y cyfyd rhodres?
Paham mae'r bobloedd yn cyd-wau
Yn eu bwriadau diles?
2 Codi y mae breninoedd byd,
A'u bryd yn gyd-gyngorol;
Yn erbyn Duw a'i Grist, ein plaid,
Y mae pennaethiaid bydol.
3 Gosodais innau, medd Duw nef,
A llaw gref yn dragywydd,
Fy Mrenin i, yn Llywydd llon,
Ar sanctaidd Sion fynydd.