4 Gwas'naethwch chwi yr Arglwydd nef,
Ac ofnwch ef trwy gredu;
Dysgwch ei garu ef heb lai,
A llawenâu dan grynu.
5 Cusenwch Iesu, rhag ei ddig,
A'ch bwrw'n ffyrnig heibio.
Bydd gwyn eu byd pob un o'r rhai
Ro'nt eu calonau iddo.
3. M. C. C.
1 A'R Dduw yr Arglwydd, â'm holl lais,
Y gelwais yn dosturaidd;
Ac ef a'm clybu i ar frys,
O'i uchel freinllys sanctaidd.
2 Gorweddais, cysgais felus hûn,
Deffro'is yn ddiflin gwedi;
Canys yr Arglwydd oedd i'm dal,
I'm cynnal, ac i'm codi.
3 I'r Arglwydd Dduw, mae'n ddilys hyn,
Y perthyn iachawdwriaeth;
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
Ei fendith yn dra helaeth.
4. M. C. C.
1 PWY, medd llaweroedd y pryd hyn,
A ddengys in' ddaioni?
O Arglwydd, dercha d'wyneb pryd
Daw digon iechyd ini.
2 I'n calon rhoist lawenydd mwy,
- A hyny trwy dy fendith,
Nag fyddai ganddynt hwy yn trin,
Amlder o'u gwin a'u gwenith.