3 Gorweddaf, hunaf, Arglwydd hael,
Gan imi gael dy heddwch;
Tydi, fy Nuw, o'th unig air,
A bair im' ddiogelwch.
5. M. C. C.
1 CLYW 'ngweddi, Arglwydd, yn ddiball,
A deall fy myfyrfod;
Erglyw fy llais a'm gweddi flin,
Fy Nuw a'm Brenin hyglod.
2 Dof innau tu a'th dŷ mewn hedd,
Am dy drugaredd galwaf;
Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,
I'th sanctaidd eglwys treiglaf.
3 Ti, Arglwydd, a anfoni wlith
Dy fendith ar y cyfion;
A'th gywir serch, fel tarian gref,
Rhoi drosto ef yn goron.
6. M. C. C.
1 O ARGLWYDD, na cherydda fi
Yn mhoethni dy gynddaredd ;
Ac na chosba fi yn dy lid,
Oblegid fy anwiredd.
2 Gan bwys fy mai, a baich fy nghur,
Yr wyf yn bur ofidus;
O Dduw, pa hyd ymguddi di,
A'm henaid i 'n drallodus ?
3 Duw, gwared f' enaid, dychwel di,
Iachâa fi a'th drugaredd;
Nid oes yn angau gof na hawl,
A phwy a'th fawl o'r pridd-fedd?