4 Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
Rhof innau barch a moliant;
Derbyn fy ngweddi i a'm gwaedd,
Am hyn yr haedd' ogoniant.
7.
M. H.
1 DUW, mae fy hyder ynot ti,
Rhag fy erlidwyr achub fi;
Fel llewod llarpiant f' enaid gwan,
Os na chynneli fi i'r làn.
2 Darfydded weithian, mae 'n llawn bryd,
Anwiredd annuwiolion byd;
Y cyfiawn rai aent yn fwy fwy,
A'u Ner a'u hamddiffyno hwy.
3 Gwir Farnwr cyfiawn ydyw Duw,
Wrth yr annuwiol digllawn yw,
Oni thry 'n fuan at ei hedd,
I'w erbyn hoga Ior ei gledd.
8.
10
M. C. C.
ARGLWYDD, ein Ior ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r holl-fyd!
Dy enw a'th barch a roist uwch ben
Daear ac wybren hefyd.
2 Ti beraist nerth o enau plant,
A'r rhai a sugnant beunydd,
I ganmawl Duw, a dofi dig
Y ffyrnig ymddialydd.
3 Wrth edrych ar y nefoedd faith,
A gweled gwaith dy fysedd,
Y lloer, y ser, a threfn y rhod,
A'u gosod mor gyfanedd;
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/17
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
