4 Pa beth yw dyn it i'w goffau
O ddoniau ac anwyl-fraint?
A pheth yw mab dyn yr un wedd,
Lle rhoi amgeledd cymmaint ?
9.
1
M. C. C.
CLODFORAF fi, fy Arglwydd Ion,
O'm calon ac yn hollawl,
Dy ryfeddodau rhof ar led,
Ac mae 'n ddyled eu canmawl.
2 Byddaf fi lawen yn dy glod,
Ac ynod ymddiriedaf;
I'th enw, O Dduw, y canaf glod,
Wyt hynod, y Goruchaf.
3 Gwna 'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
Trueiniaid fo 'u hamddiffyn;
A noddfa fydd i'r rhai'n mewn pryd,
Pan fo caledfyd arnyn'.
4 A phawb a'th edwyn rhont eu cred,
A'u holl ymddiried arnat;
Can's ni adewaist, Arglwydd, neb
A droes ei wyneb atat.
10.
10
M. C. C.
ARGLWYDD pa'm y sefi di
Oddiwrthym ni cyn belled ?
Pa'm yr ymguddi di a'th rym
Pan ydym mewn caethiwed?
2 Cyfod, O Dduw, dercha dy law,
Dy fod i'n cofiaw dangos;
Ac nac anghofia, pan fo rhaid,
Dy weiniaid a'th werinos.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/18
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
