3 Duw gweddi 'r gwan a glywaist di,
Ac a gysuri 'r galon:
Tro 'th glustiau eilwaith atom ni;
Gwrandewi weddi ffyddlon.
11.
M. C. C.
1 YR Arglwydd o'i orseddfa fry
At ddynion dry ei olwg;
Mae cyflwr pawb o tan y nef
I'w lygaid ef yn amlwg.
2 Ar bechaduriaid, marwor tân
A brwmstan a ddaw 'n gawod,
A gwynt ystormus uchel iawn;
Dialedd llawn am bechod.
3 Can's cyfiawn ydyw 'r Arglwydd Ner,
Cyfiawnder mae 'n ei garu;
A'i wyneb at yr uniawn try,
A hyny i'w ymgeleddu.
12.
1 0
M. C. C.
ACHUB, cyfod, Arglwydd cu,
Can's darfu y trugarog;
Ffyddlondeb pur ar ball a aeth,
A gweniaith sydd alluog.
2 Cyfodi wnaf, medd Duw, o blaid
Uchenaid y tylodion;
I'r hwn y magler ef yn gaeth
Rhof iachawdwriaeth dirion.
3 Pur iawn yw geiriau 'r Arglwydd doeth
Fel arian coeth puredig;
A'u cadwo hwy, eu cadw gânt,
A byddant fendigedig.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/19
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
