Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

00
SALMAU.
13.
1
M. C. C.
PA hyd, fy Arglwydd Dduw dilyth,
A'i byth yr wyf mewn angof?
Pa guddio'r wyt, Ŏ Dduw, pa hyd,
Dy lân wynebpryd rhagof?

2 Pe llithrwn ddim, rhag maint yw 'r llid,
Fe dd'wedid fy ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gas;
Dal fi o'th ras i fynu.

3 O Arglwydd, edrych arnaf fi,
A chlyw fy ngweddi 'r awrhon;
Agor fy llygaid rhag eu cau
Yn nghysfa angau digllon.

14.
1
M. C. C.
[AITH calon
AITH calon yr ynfydion yw,
Nad oes un Duw i'w barnu;
Hwy ymlygrasant yn ddi-gel,
Heb ddyn a wnel ddaioni.

2 Gw'radwyddant gyngor y tylawd,
Gan wneuthur gwawd o hono,
Am fod yr Arglwydd, yn ei ras,
Yn obaith addas iddo.

3 Pan ddelo o'r caethiwed du,
I fynu i'w gyfannedd,
Fe ymhyfryda Israel lân,
Ar felys gân gorfoledd.

15.
M. C. C.
1 DYWED i mi pa ddyn a drig
I'th lys, barchedig Arglwydd;