Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

A phwy a erys ac a fydd
Yn mynydd dy sancteiddrwydd ?

2 Yr hwn a rodia 'n berffaith dda,
Yr hwn a wna gyfiawnder,
Yr hwn a draetha o'i galon wir,
A drig ar dir uchelder.

3 Yr hwn sydd isel yn ei fryd,
Yn caru ei gyd-grist'nogion;
Yr hwn sy'n ofni 'r Arglwydd Dduw,
Ac sydd yn byw yn ffyddlon.

4 Na gwobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,
Er dal yn erbyn gwirion:
A wnelo hyn ni lithra fyth,
Fe gaiff y ddilyth goron.

16.
1
M. C. C.
TRWY Dduw y syrthiodd i mi ran
O fewn y fàn hyfrydaf;
Dygwyddodd imi, er fy maeth,
Yr etifeddiaeth lanaf.

2 Rhois Dduw yn wastad ger fy mron;
O'r achos hon ni lithraf;
Can's mae ef ar fy neheu law,
Yma na thraw ni syflaf.

3 Tywysi fi'r hyd llwybr iawn,
Nes dod i'th lawn lawenydd;
Ar dy ddeheulaw 'n ddedwydd fry,
Digrifwch sy 'n dragywydd.

17.
GALW
1 GA
M. C. C.
ALW 'r wyf arnat am dy fod
Yn Dduw parod i wrando;