245.
HYMNAU.
M. C.
ANNOGAETH I FOLIANNU DUW.
1 YN nhy ein Duw clodforwn ef,
Lle rhydd ei hedd a'i ras;
Derchafwn lais hyd byrth y nef
Mewn hyfryd hwyl a blas.
2 Yn wiw deffroed pob nwyd a dawn
I ganmol Duw 'n ddi lyth:
Ond rhyfeddodau gras yn llawn,
Nis gallwn ddadgan byth.
3 De'wn a moliannwn Frenin hedd,
Ei glod a seinio 'n mhell;
Ond gydag ef, tu draw i'r bedd,
Ni gawn ei foli 'n well.
246.
M. C.
YMNERTHU YN YR ARGLWYDD.
1 YN nyfnder profedigaeth ddu,
Fy Nuw, dos o fy mlaen;
Ond imi gael bod gyda thi,
Nid ofnaf ddwfr na thân.
2 At wedd dy wyneb nid yw ddim
Drysorau maith y llawr;
Mae gair o'th enau 'n llawer mwy
Ei rym nag uffern fawr.
3 Dy allu yw fy nerth a 'ngrym,
Yn d'allu byddaf byw;
Wyf wan, wyf lesg, nid allaf ddim
Un fynyd heb fy Nuw.
247.
M. 11AU.
AFON BUR O DDWFR Y BYWYD.
1 YR afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr,
Yw sail fy ngorfoledd a 'nghysur yn awr;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/216
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
