Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

249.
HYMNAU.
M. 6. 6. 8.
ADGYFODIAD A DERCHAFIAD CRIST.
1 YR ymdrech fawr a droes
2
3
O'n plaid ar bren y groes,
Trwy chwerw loes ein Priod cu:
Wrth farw un pryd nawn,
A thalu perffaith iawn,
Cadd goncwest llawn ar angau du.
Ar fore 'r trydydd dydd,
Fe ddaeth y Meichiau 'n rhydd;
Ein Prynwr sydd yn awr yn fyw:
Mae agoriadau'r bedd,
Wrth wregys Brenin hedd,
A gwir etifedd pob peth yw.
Esgynodd Crist, ein Pen,
I entrych nefoedd wen;
Tu fewn i'r llen aeth drosom ni:
Duw, a'i ddeheulaw gref,
A'i tra-derchafodd ef
Uwch nef y nef mewn parch a bri.
4 Mae 'n dadleu gyda'r Tad
Am lawn faddeuant rhad,
A chyfiawnâad i'r euog rai;
Pan dděl i farnu 'r byd,
Fe ddwg ei saint i gyd
I berffaith wynfyd pur di drai.
DIWEDD YR HYMNAU.

Google