Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
MAWLODLAU.
250.
M. C.
1 I'R Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân,
Rhown fawl ar gân i gyd;
Sain Haleluiah fo 'mhob man,
Trwy bedwar ban y byd.
251.
M. C. C.
1 GOGONIANT fyth a fo i'r Tad,
I'r Mab rhad a'r Glân Ysbryd;
Fel y bu, y mae, ac y bydd,
Un Duw tragywydd hyfryd.
252.
M. B.
1 GOGONIANT fo i'r Tad,
Mab rhad, ac Ysbryd Glân;
Fel 'r oedd, y mae, bydd felly 'n bod,
Yn hanfod diwahân.
253.
M. B. C.
1 GOGOOGONIANT fo i'r Tad,
Mab rhad, ac Ysbryd sanctaidd ;
I'r Tri yn Un mewn tirion nod,
Fe bery 'r clod yn buraidd.
254.
M. H.
1 I DAD y trugareddau i gyd,
Rhown foliant holl drigolion byd:
Llu 'r nef, moliennwch ef ar gân,
Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân.
Google