Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

SALMAU.
3 Pwy, meddwch, ydyw 'r Brenin hwn,
Fel rhoddwn iddo foliant?
Arglwydd y lluoedd, credwch hyn,
Yw Brenin y gogoniant.
25.
1
M. C. C.
DANGOS im', Arglwydd, dy ffordd di,
A phar i mi ei deall:
Arwain a dysg fi yr un wedd,
Yn dy wirionedd diball.
2 I'r sawl a gadwo ddeddfau 'r Ion,
A'i uniawn dystiolaethau,
Gwirionedd a thrugaredd fydd
Ei lywydd yn ei lwybrau.
3 Er mwyn dy enw, Arglwydd mau,
O madden fy anwiredd;
Can's fy nhroseddiad i mawr yw,
Mwy ydyw dy drugaredd.
26.
M. C. C.
1 PRAWF di fy muchedd, Arglwydd da,
A hola ddull fy mywyd;
A manwl chwilia'r galon fau,
Prawf fy arenau hefyd.
2 O flaen fy llygaid, wyf ar led
Yn gweled dy drugaredd;
Gwnaeth dal ar hyny ar bob tro,
Im' rodio i'th wirionedd.
3 Mi olchaf fy nwy law yn rhwydd,
Mewn diniweidrwydd, Arglwydd ;
Ac felly af i'th deml yn hy,
At allor dy sancteiddrwydd..
Google