Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

27.
1
YR
M. C. C.
R Arglwydd yw fy ngoleu i gyd,
A'm hiechyd; rhag pwy 'r ofnaf ?
Yr Arglwydd yw nerth f' oes; am hyn
Rhag pwy doi dychryn arnaf?
2 Un arch a erchais ar Dduw Naf,
A hyny a archaf eto;
Cael dyfod i dŷ'r Arglwydd glân,
A bod a'm trigfan ynddo.
3 I gael ymweled â'i deml deg,
A hyfryd osteg ynddi,
Holl ddyddiau f' einioes: sef wyf gaeth
O hiraeth mawr am dani.
4 Duw, dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
O herwydd fy ngelynion;
Ac arwain fi, o'th nawddol rad
Yn wastad ar yr union.
28.
1
HYD
2
M. 6. 8.
YD atat, Arglwydd nef,
Dyrchafaf lef i'r làn;
Attolwg, gwrando 'n fwyn
Ar gŵyn fy enaid gwan;
Fy nghraig, na thaw tra bwy 'n y byd,
Rho air mewn pryd rhag digwydd braw.
Bendigaid fyddo Duw,
Fe glyw 'ngweddiau 'n glau,
Mae 'n darian im' a nerth,
I'm prydferth gadarnâu;
Ei gymmorth gaf mewn adfyd tyn,
O herwydd hyn y llawenâaf.

Google 15