3
SALMAU.
Dy etifeddiaeth fawr,
Bendithia 'n awr, fy Nuw;
A phortha di dy braidd,
Yn buraidd tra b'ont byw;
Dyrchafa hwy â chyfiawn hawl,
I ganu mawl i'th enw mwy.
29.
M. C. C.
1 RHOWCH i'r Arglwydd, a rhowch yn
chwyrn,
Chwi, blant y cedyrn, foliant;
A chydnabyddwch ei fawr nerth,
Mor brydferth, a'i ogoniant.
2 Rhoddwch i enw'r Arglwydd glod,
Heb orfod mwy mo'ch cymmell;
Addolwch Arglwydd yr holl fyd,
Mor hyfryd yw ei babell.
3 Llais yr Arglwydd, pan fyddo llym,
A ddengys rym a chyffro;
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
Fel y bo cymmwys ganddo.
4 Yr Arglwydd rydd i'w bobl nerth,
Drwy brydferth gyfaneddwch;
Yr Arglwydd rydd ei bobl ymhlith
Ei fendith, a hir heddwch.
30.
M. C. C.
1 CIENWCH i'r Ion, ei holl saint ef,
A llawen lef clodforwch;
Wrth goffa ei sancteiddrwydd pur,
A chalon gywir cenwch.
2 Ni phery ei lid ond enyd fèr,
Mae'n ei foddlonder fywyd;
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/28
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
