Heno bryd nawn wylofain sydd,
Y bore ddydd daw iechyd.
3 Cuddiaist dy wyneb enyd awr,
A blinder mawr a gefais;
Arnat, O Arglwydd, y rhois lef,
A'r Arglwydd nef ymbiliais.
31.
M. C. C.
1 MI ymddiriedais ynot, Ner,
Fel na 'm gwaradwydder bythoedd:
Duw, o'th gyfiawnder gwared fi,
A chlyw fy nghri hyd nefoedd.
2 Dodaf fy ysbryd yn dy law,
Ac af ger llaw i orwedd;
Da y gwaredaist fi yn fyw,
O Arglwydd Dduw 'r gwirionedd.
3 Cymmerwch gysur yn Nuw Ion,
Ef a rydd galon ynoch;
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
Ei law yn gref fydd drosoch.
32.
1
¹ Y
M. C. C.
SAWL sy deilwng, gwyn ei fyd,
Drwy faddeu i gyd ei drosedd;
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
Ei bechod a'i anwiredd.
2 A'r dyn â gwynfyd Duw a'i llwydd,
Ni chyfri 'r Arglwydd iddo
Mo'i gamweddau; yr hwn ni chaed
Dim twyll dichellfrad ynddo.
C 2
Google 17