SALMAU.
2 Cyflawn o frasder yw 'r ty tau,
Lle llenwir hwythau hefyd,
Lle y cant ddiod genyt, Ion,
O ddyfroedd afon bywyd.
3 O estyn eto i barâu
Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn,
I'r rhai sydd uniawn galon.
37.
1
M. C. C.
BYDD di gysurus yn dy Dduw,
Ti gai pob gwiw ddymuniad;
Dy ffyrdd cred iddo yn ddilys,
Fe rydd d' ewyllys atat.
2 Cred ynddo ef, fe 'th ddwg i'r làn,
Myn allan dy gyfiawnder;
Mor oleu â'r haul ar haner dydd,
Fel hyny bydd d' eglurder.
3 Yr Arglwydd fforddio 'n wir a wna,
Brif-ffordd gwr da bob enyd;
Os cwymp, ni lwyr ddyfethir ef,
Duw a'i law gref a'i cyfyd.
38.
M. C. C.
1 CLYW, Arglwydd, gwrando fi'n ddi-goll,
O'th flaen mae 'm holl ddymuniad;
Ni chuddiwyd mo'm hochenaid i
Oddiwrthyt ti, fy Ngheidwad.
2 Am im' ymddiried yn fy Nuw,
O Arglwydd Dduw Goruchaf,
Y mae 'n ddiammeu genyf fi,
Fyth y gwrandewi arnaf.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/32
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
