3 Duw, nac ymad, na fydd yn mhell,
Pan ddelo dichell ffyrnig;
Brysia i'm cymmorth ar bob pryd,
Fy Nuw, fy Iechyd unig.
39.
M. C. C.
10 DANGOS im', fy Arglwydd Ner,
Pa amser y diweddaf
Rifedi 'nyddiau, a pha hyd
O fewn y byd y byddaf.
2 Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,
I'm heinioes daw byr ddiwedd ;
Diau yn d' olwg di, Ŏ Dduw,
Fod pob dyn byw yn wagedd.
3 Pan gosbech di am bechod wr,
Fe wywa 'n siwr ei fawredd
Fel gwyfyn; gwelwn wrth ei lun,
Nad yw pob dyn ond gwagedd.
4 O paid â mi, gad im' gryfâu,
Cyn darfod dyddiau 'mywyd;
O gwna â mi sy 'mron fy medd,
Drugaredd a syberwyd.
40.
1
0❜M
M. 9. 8.
'M hamgylch daeth drygau nifeiriol,
Euogrwydd fy mhechod, fel lli;
Can's amlach na gwallt yw fy meiau;
P' odd coda 'i fy mhen atat ti?
Duw, rhynged bodd i ti fy ngwared,
A deued dy gymmorth i'm rhan;
Toed c'wilydd a gw'radwydd y gelyn
A'i amcan yn erbyn y gwan.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/33
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
