Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

SALMAU.
2 Molianned y sawl a dy geisio,
Ac ynot boed hyfryd eu cân;
Mawryger yr Arglwydd daionus,
Ei hen iachawdwriaeth sy lân.
Na chilied o'u genau d' ogoniant,
Y sawl a dy garant i gyd;
Dywedent oll fod dy drugaredd
Yn gwared yn rhyfedd o hyd.
3 I minnau sy dlawd ac angenus,
Yr Arglwydd daionus a rydd
Ei ras a'i drugaredd im' cymmorth,
A'i dirion ymwared bob dydd:
Na chuddia dy wyneb oddiwrthyf,
Pan lefwyf, O! gwrando fy nghwyn;
A danfon ar frys o'r uchelder,
Drugaredd yn dyner i'm dwyn.
41.
1
M. C. C.
GWYN fyd y da ystyriol frawd,
A wnel â'r tlawd syberwyd;
Ystyr yr Arglwydd hyn o'r nef,
I'w gadw ef rhag drygfyd.
2 Yn ei wely pan fo yn glaf,
Rhydd y Goruchaf iechyd;
A Duw 'gyweiria oddi fry
Ei wely yn ei glefyd.
3 Dywedais innau yna 'n rhwydd,
Dod, Arglwydd, dy drugaredd;
Iachâ' y dolur sy dan fy ais,
Can's pechais mewn anwiredd.

Google