42.
1
YR
M. C. C.
R unwedd ag y bref yr hydd
Am yr afonydd dyfroedd,
Felly y mae fy hiraeth i
Am danat ti, Duw 'r nefoedd.
2 Fy enaid i, sychedig yw
Am fy Nuw byw a'i gariad:
Pa bryd y dof fi ger dy fron,
Fy Nuw a'm cyfion Ynad?
3 Trwm wyt, f' enaid, o'm mewn, paham
Y rhoi brudd lam ochenaid ?
Dysgwyl wrth Dduw, a doi ger bron
Ei wyneb tirion canaid.
43.
M. C. C.
1 BARN fi, O Dduw, a dadleu 'n dyn
Yn erbyn pobloedd anwir:
Rhag y gwr twyllgar gwared fi
A rhag drygioni 'r dyhir.
2 Can's ti yw Duw fy nerth i gyd;
Paham y'm bwrid ymaith?
A pha'm yr af mor drwm a hyn,
Gan bwys y gelyn diffaith?
3 O gyr dy oleu, moes dy wir,
Ac felly t'wysir finnau;
Arweiniant fi i'th breswylfeydd,
I'th fynydd, ac i'th demlau.
45.
M. C. C.
1 CLYW hyn, O ferch, a hefyd gwel,
Ac â chlust isel gwrando; .
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/35
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
