Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

SALMAU.
Mae 'n rhaid it' ollwng pawb o'th wlad,
A thŷ dy dad, yn ango'.
2 Yna bydd gan y Brenin wych
Gael edrych ar dy degwch :
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
I gael i'th oes hyfrydwch.
3 Ond merch y Brenin glân o fewn,
Anrhydedd llawn sydd iddi;
A gwisg o aur a gemau glân
Oddi allan sydd am dani.
4 Mewn gwaith gwe-nodwydd y daw hon,
Yn wych ger bron ei Harglwydd ;
Ac a'i gwyryfon gyda hi,
Daw atat ti yn ebrwydd.
5 Ac mewn llawenydd mawr a hedd,
Ac mewn gorfoledd dibrin;
Hwynt-hwy a ddeuant wrth eu gwŷs
I gyd i lys y Brenin.
46.
1
M. 113.
DUW yw fy nerth a'm noddfa lawn;
Mewn cyfyngderau creulawn iawn,
Pan alwom arno mae ger llaw.
Ped ai 'r mynyddoedd mwya' i'r môr,
Pe chwalai 'r ddaear fawr a'i stor,
Nid ofna f' enaid i ddim braw.
2 A phe doi 'r moroedd dros y byd,
Yn genllif garw coch i gyd,
Nes soddi 'r bryniau fel o'r blaen;
Mae afon bur i lawenâu,
A'i ffrydiau, ddinas Duw 'n ddi drai,
Preswylfa ei saint, ei babell lân.

Google