26
Duw dros y byd sy Frenin call;
Trwy ddeall ymhyfrydwch.
3 Yr Arglwydd yn teyrnasu sydd
Ar wledydd y cenedloedd;
Gan eistedd ar ei orsedd gu,
Uwch dysglaer lu y nefoedd.
48.
1
MAWR
M. C. C.
AWR ei enw 'n ninas ein Duw,
A hynod yw yr Arglwydd;
Ei drigfan hefyd yno sydd,
Yn mynydd ei sancteiddrwydd.
2 Ewch, ewch oddiamgylch Sion sail,
A'i thyrau adail rhifwch;
Ei chadarn fur a'i ph'lasau draw,
I'r oes a ddaw mynegwch.
3 Can's ein Duw ni byth yw 'r Duw hwn,
Hyd angau credwn ynddo;
Hyd angau hefyd hwn a fydd
Yn Llywydd byth i'n t'wyso.
49.
1
M. C. C.
A NGAU yw terfyn pob dyn byw,
I hwn nid yw ond tamaid;
Myned sydd raid o'r ty i'r bedd,
Yn rhwym un wedd â'r defaid.
2 Gwelir mai'r bedd yw lletty 'r doeth,
Y ffol a'r annoeth unwedd;
Marw yw 'r naill a marw yw'r llall,
I arall gad ei annedd.