28
4
Na fwrw fi mewn gwg
5
Yn llwyr o'th olwg allan;
Ac na chymer dy Ysbryd Glân
Oddiwrthyf, druan egwan.
Aberthau Duw yn wir
Yw ysbryd pur drylliedig;
Ac ni ddirmygi, O Dduw Ion,
Y galon gystuddiedig.
55.
1
M. C. C.
GWRANDO, O Dduw, fy ngweddi brudd,
Nac ymgudd rhag fy nghwynfan;
Erglyw a gwel fy ngwael ystâad,
A llais fy nâd a'm gruddfan.
2 Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
Yr hwn a'm clyw mewn amser,
Bore a hwyr, a chanol dydd;
A hyn a fydd trwy daerder.
3 O bwrw d' ofal ar dy Dduw,
O myni fyw heb syrthio:
Y cyfiawn Duw a geidw byth,
A'r drwg a chwyth oddiwrtho.
57.
M. C. C.
1 DY ras, dy nawdd, fy Nuw, i'm dod,
Sef ynod ymddiriedaf,
Nes myned heibio 'r aflwydd hyn
Dan d'edyn ymgysgodaf.
2 Ymddiried f' enaid ar Dduw sydd,
Ar Dduw trwy ffydd y galwaf:
Ef a gyflawna 'i air yn iawn,
Can's cyfiawn yw 'r Goruchaf