Cenwch, O cenwch, glod yn rhwydd
I Arglwydd y gogoniant.
4 Ofnadwy ydyw ef a'i arch,
Teilwng o barch y bobloedd:
Duw Israel rydd in' nerth wrth raid,
Bendigaid yn oes oesoedd.
69.
M. C. C.
31
1 GWRANDO fi bellach, Arglwydd Dduw,
Can's da yw dy drugaredd;
Yn amlder dy dosturi mawr,
Edrych i lawr o'th annedd.
2 Ar gyfyng bryd oddiwrth dy was,
Na chudd mo ras dy wyneb;
'Rwyf yn gweddio yn fy ngloes;
Duw, brysia, moes im' ateb.
1
71.
M. C. C.
DUW, bydd yn graig o nerth i mi,
I gyrchu ati 'n wastad;
A phar fy nghadw i yn well,
Ti yw fy nghastell caead.
2 Nac esgeulusa fi a'm braint
Yn amser henaint egwan:
Er pallu 'm nerth, cryfaa fy ffydd,
Hyd ddiwedd dydd fy oedran.
3 Fy ngobaith innau a saif byth
Yn ddilyth a safadwy;
Ymddiried ynot, Dduw, a wnaf,
Ac a'th foliannaf fwyfwy.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/43
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
