Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

72.
SALMAU.
M. 9. 8.
1 BENDITHIR yr Arglwydd a'i nerthoedd,
Fe wna i'r mynyddoedd ddwyn hedd,
A'r bryniau a ffrwythant gyfiawnder,
O herwydd graslonder ei wedd:
Fe ddisgyn, fel gwlith o'r uchelder,
Ei fendith a'i fwynder i fyw;
A derfydd gorthrymder a rhyfel,
Molianned holl Israel eu Duw.
2 O'i flaen yr ymgryma 'r trigolion,
A llyf ei elynion y llawr;
Moliennwch yr Oen a fu farw,
Ceir gweled mai hwnw fydd mawr:
Breninoedd o Tarsis a Seba,
A ddygant anrhegion yn nghyd;
Ymgrymant ger bron y Gwaredwr,
Addolant Iachawdwr y byd.
3 Ma'n arbed y tlawd a'r anghenus,
Mae'n achub y rheidus yn rhad;
A'r clwyfus a gân yn dragwyddol,
Am brofi rhinweddol iachâad;
Fe wared eu henaid rhag trawsder,
Ceir gweled mai gwerthfawr eu gwaed;
Yr Arglwydd sydd deilwng o'r mawredd,
Yr unig ymgeledd a gaed.
4 Byw hefyd a fydd ein Gwaredwr,
Fe ddaeth yn Iachawdwr i'r gwael;
O Seba daw aur ac anrhegion,
Mae'n deilwng i'r Cyfion eu cael;
Mawrygir yr Arglwydd trwy'r gwledydd,
Ei enw fydd beunydd yn ben;
Ni dderfydd ei glod pan ddarfyddo
Yr haul a goleuon y nen.

Google