73.
M. C. C.
1 PA'M? pwy, O Dduw, sy genyf fi,
Ond tydi yn y nefoedd ?
Dim ni ddymunwn gyda thi,
Wrth weini daear leoedd.
2 F'y nghalon i, a'm nerth, a'm' cnawd,
Y sydd mewn palldawd beunydd ;
Ond tydi, Dduw, sydd ar fy rhan,
A'm tarian yn dragywydd.
3 Mi ddeuaf nesnes at fy Nuw,
Fy ngobaith yw i'm calon,
Y traethaf fi ei nerth a'i wyrth,
O fewn dy byrth, merch Sion.
76.
M. C. C.
1 YN Iudah ac yn Israel dir
Adwaenir ein Duw cyfion:
Ei babell ef yn Salem sydd,
A'i breswyl fydd yn Sion.
33
2 Eich rhodd i'r Arglwydd Dduw a ddêwch,
A llawn gwblêwch eich gwobrwy:
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
Rhowch anrheg i'r Ofnadwy.
3 Ef a ostyngodd uchel fryd,
Ac ysbryd gwyr rhyfelgar:
Fe a yr ofn yn nghanol hedd,
Ar holl freninoedd daear.
77.
I FY
M. C. C.
Y llais at Dduw, pan roddais lef,
Fy llais o'r nef fe 'i clybu;