Am llais gweddiais ar Dduw Ner,
Pan oedd blinder yn tarddu.
2 Dy waith, O Dduw, coffaaf yn rhwydd,
A'th wyrthiau hylwydd cofiaf;
Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
A myfyr maith y traethaf.
3 Dy lwybrau ynt mewn moroedd fyrdd,
A'th ffyrdd mewn dyfroedd mawrion;
Ni adwaenir fyth mo 'th ol, fy Nuw,
Anfeidrol yw d' arwyddion.
84.
M. C. C.
'DY babell di mor hyfryd yw,
O Arglwydd byw y lluoedd;
Mynych chwenychais weled hon,
Rhag mor dra thirion ydoedd.
2 Mae f' enaid i, fy Ion, mewn blys
I'th gyfsegr lys dueddu;
Fy nghalon i, a'm holl gnawd, yw
Yn Nuw byw 'n gorfoleddu.
3 Gwyn fyd yr hwn drig yn dy dŷ,
Caiff dy foliannu ddigon ;
Ac ynot ti sy'n cadarnâu,
A'th lwybrau yn eu calon.
4 Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,
Nes cael yn brydferth ddyfod
I ymddangos i Dduw ger ei fron
Yn Sion ei breswylfod.
5 Gwell yw na mil un dydd i'th dŷ;
Am hyny mwy dewisol
I'm fod ar riniog y drws tau,
Na ph'lasau yr annuwiol.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/46
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
