3 Trugaredd a gwirionedd pur
Yn eglur cyfarfuant,
Hedd a chyfiawnder oll o'n tu,
Yn Iesu ymgusanasant!
4 Cyfiawnder mewn rhyfeddol fodd,
Edrychodd o'r uchelder;
Ac ar y ddaear fawr ei bai
Tywynai 'i wyneb tyner.
5 Gwirionedd caed o'r ddaear ddu,
Rhyfeddir mewn hyfrydwch;
A nef y nefoedd byth fydd hyn,
Cyfiawnder yn rhoi heddwch.
87.
10
M. C. C.
DDINAS Duw, preswylfa 'r Ion,
Mawr ydyw 'r son am danad;
A gogoneddus air it' sydd
Uwch beilch drigfenydd anfad.
2 Dywedir hyn am Sion bêr,
Fe anwyd llawer ynddi,
Nid ambell un; can's cymmorth da
Yw Duw Goruchaf iddi.
89.
1
M. C. C.
MYFYRIAF gerdd byth i barâu,
O drugareddau'r Arglwydd ;
Gwirionedd Ior i'm genau fydd,
Yn ebrwydd, hyd dragywydd.
2 Trwy gynnulleidfa ei saint ef,
Duw nefoedd sydd ofnadwy;
A thrwy'r holl fyd o'n hamgylch ni,
Ei ofni sy ddyladwy.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/49
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
