3 Tebyg i ti pwy sydd, O Dduw,
O Arglwydd byw y lluoedd,
Yn gadarn lor, a'th wir yn gylch
O amgylch yr holl nefoedd?
90.
M. C. C.
1 DUW, buost in' yn Arglwydd da,
Ac yn breswylfa i drigo;
O bryd i bryd felly yr aeth
Pob rhyw genedlaeth heibio.
2 Er cyn rhoi sail un mynydd mawr,
Cyn llunio llawr cwmpas-fyd;
Duw o dragwyddol wyt cyn neb,
Hyd dragwyddoldeb hefyd.
3 I'r bedd dinystriol y troi ddyn,
Ond yna ti sy 'n noddfa;
Dywedi, cyn ein myn'd i'r llwch,
Dychwelwch, feibion Adda.
4 Diwalla ni yn fore iawn
A nefol ddawn trugaredd;
Fel y mwynâom lawen fyd
Yn hyfryd byd y diwedd.
91.
¹ A
M. 8AU.
DRIGO 'nghymdeithas y Tad,
Ei aden yn gaead a'i cudd;
Caiff weled, trwy 'r aberth a'i ras,
Ddirgelwch ei deyrnas bob dydd;
Dywedaf, fy noddfa yw'm Ner,
A'm tyner Waredwr yw'r Ion;
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/50
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
