Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ac ynddo gobeithiaf heb baid,
Am dano fy enaid a son.
2 Nid ofni rhag dychryn y nos,
A'r saeth ni ddaw'n agos liw dydd;
I'th gadw yn mlaen ac yn ol,
Ei aden anfeidrol a fydd:
Rhag haint a'r dinystrydd, dy Ner
A'i aden fydd dyner i'th doi;
A'i enw dy gastell a'th gel,
A'th noddfa ddiogel i ffoi.
3 O herwydd it' wneuthur yr Ion,
Yr Arglwydd Goruchaf, dy nyth,
Dy gysgod, dy noddfa ddi gryn,
A'th breswyl ddiogel am byth;
Dim niweid ni ddigwydd i ti,
Na phla i dy boeni ni bydd,
Cysgoda dy babell yn llon,
Ei roddion dan fendith a rydd.
4 Angelion y nefoedd yn llu
A warchod oddeutu dy ffyrdd;
Gorchymyn a ddyry 'n dy gylch,
Ehedant o'th amgylch yn fyrdd;
Hwy'th ddygant yn dyner a doeth,
A'u dwylaw angelaidd yn nghyd,
Rhag llithro na tharo dy droed,
Mor hynod eu gofal i gyd!
92.
M. C. C.
39
1 MOLIANNU 'r Arglwydd, da iawn yw,
A chyfarch Duw yn benaf;
A chanu i dy enw fawl,
A'th ganmawl, y Goruchaf.

Google