2 Ei allu glân a'n crëodd oll;
Ein ffurf o glai a wnaeth i gyd:
Fel defaid aethom bawb ar goll,
Ond dyg ni 'n ol i'w gorlan glyd.
3 Seiniwn ei fawl â bywiog iaith,
Derchafwn lais hyd entrych nef;
Daw 'r byd a'i fil o filoedd maith,
I'w byrth ag un soniarus lef.
4 Hwy bery ei air na môr na thir;
Didranc ei gariad mawr a'i ras;
Yn gryf fel craig y saif ei wir,
Pan gryno 'r nef a'r ddaear las.
102.
M. C. C.
10 CYFOD bellach, trugarâa,
O Dduw, bydd dda wrth Sion;
Mae 'n amser wrthi drugarâu,
Fel dyma 'r nodau 'n union.
2 Can's hoff iawn gan dy weision di
Ei meini a'i magwyrau;
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
Ei thristwch a'i thrallodau.
3 Pan adeilader Sïon wych,
Bydd hon yn ddrych i'r gwledydd;
Pan welir gwaith yr Arglwydd nef,
Y molir E'n dragywydd.
4 Hyn fydd pan gasglo pawb yn nghyd,
Yn unfryd i'w foliannu;
A'r holl deyrnasoedd ddont yn ngwydd
Yr Arglwydd, i'w wasanaethu.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/54
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
