Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

103.
1
M. C. C.
FY enaid, mawl Sanct Duw, yr Ion,
A chwbl o'm heigion ynof;
Fy enaid, na'd fawl f' Arglwydd nef,
Na 'i ddoniau ef yn angof.
2 Yr hwn sy'n maddeu dy holl ddrwg,
Yr hwn a'th ddwg o'th lesgedd;
Yr hwn a weryd d' oes yn llon,
Drwy goron o'i drugaredd.
3 Cyhyd ag yw 'r ffurfafen fawr
Oddiar y llawr o uchder;
Cymmaint i'r rhai a'i hofnant ef,
Fydd nawdd Duw nef bob amser.
4 Os pell yw 'r dwyrain oleu hin,
Oddiwrth orllewin fachlud;
Cyn belled ein holl bechod llym,
Oddi wrthym ef a'i symud.
106.
1 MOI
M. C. C.
OLWCH yr Arglwydd, can's da yw,
Moliennwch Dduw y Llywydd;
Oblegid ei drugaredd fry
A bery yn dragywydd.
2 Yr Arglwydd, pwy oll draethu ei nerth,
A'i holl dirionferth foliant ?
A wnel yn gyfiawn; gwyn eu byd,
Ei farm i gyd a gadwant.
3 O Arglwydd, cofia fi dy was,
Yn ol dy ras i'r eiddod;
Ymwel & mi, a'm cystudd caeth,
A'th iachawdwriaeth barod.

Google