Ei farnau a welir ar goedd,
Yn mhlith holl genedloedd y byd.
4 Wrth deithio drwy boethder ei groes,
Cyfyngder ei einioes mor fawr;
Am hyn o'r addewid ddi fai,
Fel afon yr yfai bob awr;
Fe redodd yr afon i'r ael,
Yr Ysbryd i'w gynnal a gadd;
Fe yfai 'n ddigonol o hon,
Do, er i'w elynion ei ladd.
111.
M. C. C.
1 YR Arglwydd a wnaeth ei goffâu,
Am ryfeddodau nerthol;
Can's Arglwydd noddfawr yw i ni,
Llawn o dosturi grasol.
2 Efi bob rhai a'i hofnant ef
Rydd gyfran gref at fywyd;
Ac yn dragywydd y myn fod
Cof o'i gyfammod hefyd.
113.
M. 8. 8. 8.
1 CHWI weision Duw, molwch yr Ion,
Molwch ei enw â llafar dôn;
Bendigaid fyddo 'i enw ef:
O godiad haul hyd fachlud dydd,
Mawr enw'r Ion moliannus fydd,
Yn y byd hwn ac yn y nef.
2 Derchafodd Duw uwch yr holl fyd,
A'i foliant aeth uwch nef i gyd;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/58
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
