Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Pwy sydd gyffelyb i'n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,
I'r ddaear hon darostwng ef,
Gwel ef ein cam, clyw ef ein cri.
3 Yr hwn sy'n codi'r tlawd o'r llwch,
A'r rheidus o'i orthrymder trwch,
I'w gosod uwch pennaethiaid byd:
I'r ammlantadwy plant a rydd,
Hil teg, a llwyddiant iddynt fydd;
Am hyn moliennwch Dduw i gyd.
115.
M. 10AU.
47
1 I'N henwau gwael, O Dduw, ni pherthyn
clod;
I'th enw mawr dy hun gogonedd dod;
Dy nerth, dy nawdd, dy wir, a'th iawnder
maith,
A bair dy foli mewn anfarwol iaith:
Goleua'r byd o'r nef, dy drigfan wiw,
Na chaed ynfydion ddweyd, "Pa le mae'ch
Duw."
2 O Israel dod ymddiried yn dy Dduw,
Dy gadarn borth, a'th amddiffynfa yw:
Canfydda 'th gur, a'th drallodedig wedd,
Dy riddfan clyw, adfera iti hedd;
Cysuron fyrdd sy'n ei wasanaeth ef,
Dy gymmorth hael yw Duw, dy darian gref.
117.
M. C. C.
10 CENWCH fawl i'r Arglwydd nef,
Moliennwch ef, genedloedd;
Google