Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ofer i gyd: Duw a rydd hûn
I bob rhyw un a'i caro.
3 Wele, y plant a roir i ddyn,
Hiliogaeth ŷn' i'r Arglwydd;
Ac o'i rodd ef daw ffrwyth y bru,
I'w magu mewn sancteiddrwydd.
130.
M. C. C.
1 DUW, pwy a saif yn d'wyneb di,
Os creffi ar anwiredd ?
Ond fel y'th ofner di yn iawn,
Yr wyt yn llawn trugaredd.
2 Dysgwyliais, f' Arglwydd, wrth fy rhaid,
Dysgwyliodd f'enaid wrtho;
Rhois fy holl obaith yn ei air;
F'enaid a gair yn effro.
3 Ei drugareddau ant ar led,
Fe rydd ymwared ini;
Fe weryd Israel, fel hyn
Fe'i tyn o'i holl ddrygioni.
133.
M. C. C.
1 WELE fod brodyr yn byw 'nghyd,
Mor dda, mor hyfryd, ydoedd!
Tebyg i olew o fawr werth,
Mor brydferth ar y gwisgoedd:
2 Fel pe disgynai draw o'r nen,
Hyd farf a phen offeiriad;
Barf Aaron, a'i wisg laes i gyd,
Yn hyfryd ei arogliad.
Google