Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

136.
M. 6. 6.8.
1 BOED clod i'r uchel Dduw,
Ior nef a daear las:
Brenin breninoedd yw,
Rhyfedded pawb ei ras:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air di lyth safadwy yw.
2 Mor rymus yw ei law!
Pa wyrthiau mawr wnaeth ef!
Gwnaeth dir a moroedd maith,
A llunio wnaeth y nef:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air di lyth safadwy yw.
3 Diolchwn ninnau'n awr,
I Frenin mawr y nef;
A chaned daear faith
Ei waith a'i foliant ef:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air di lyth safadwy yw.
136.
1
M. C. C.
MOLWCH chwi Dduw y duwiau 'n
rhwydd,
Ac Arglwydd yr arglwyddi;
Efe wnaeth ryfeddodau mawr,
Trwy ei ddirfawr ddaioni.
2 Dug Israel i'r làn yn wych,
Mewn hyfryd ddrych gorfoledd;
Ysgytiodd y gelynol lu,
A hyn fu o'i drugaredd.
3 Yn ein hiselradd cofiodd ni,
O'i fawr ddaioni tirion;
Google