Ac a'n hachubodd yn ddi swrth
Oddiwrth ein holl elynion.
4 Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,
Yn ddidlawd o'i drugaredd;
Clodforwch Arglwydd Dduw y nef,
Rhowch iddo ef ogonedd.
138.
M. C. C.
1 RHOF fawrglod iti, fy Nuw Ion,
O ddyfnder calon canaf;
Ac yn ngwydd holl angelion nef,
A'm goslef y'th foliannaf.
2 Ymgrymaf tu a'th sanctaidd dŷ,
Dan ganu o'th drugaredd:
A'th enw mawr uwch law pob peth,
A'th air di feth wirionedd.
3 Y dydd y gelwais arnat ti,
Gwrandewaist fi yn fuan;
Yno y nerthaist, â chref blaid,
Fy enaid i oedd egwan.
139.
M. C. C.
1 ARGLWYDD, manwl y chwiliaist fi,
Da y'm hadwaeni hefyd;
Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
A'm meddwl cyn ei dd'wedyd.
2 Yr wyt yn nghylch fy lloches i,
A'm ffyrdd sydd iti 'n hysbys;
'Does air nas gwyddost ti ei fod
Ar flaen fy nhafod ofnus.
3 Nid dim tywyllwch nos i ti
Nag yw goleuni haf-ddydd;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/66
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
