Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y ddau i ti maent yr un dull,
Y tywyll a'r goleu-ddydd.
4 Duw, prawf fy meddwl yn fy mol,
Oes ffordd annuwiol genni;
Gwel fi, a thywys, dwg fi 'n ol,
Dod ffordd dragwyddol imi.
141.
1
M. C. C.
BRYSIA, Arglwydd, clyw fy llais,
O brysur gelwais arnat;
O'r màn lle bwyf gwrando fy llef,
A doed i'r nef hyd atat.
2 O Arglwydd, gosod rhag gair ffraeth,
Gadwraeth ar fy ngenau;
Rhag im' gam-dd'wedyd gosod ddor
Ar gyfor fy ngwefusau.
3 Mae ngolwg am holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
O bydd di 'n unig yn fy mhlaid,
Na fwrw f' enaid allan.
145.
M. C. C.
1 MI a'th fawrygaf di, fy Nuw,
Can's tydi yw fy Llywydd;
Bendithio d' enw byth a wnaf,
Mi a'i molaf yn dragywydd.
2 Cenedl wrth genedl a ro'nt fawl
I'th ogoneddawl wyrthiau;
Gan daenu 'th nerth ar hyd y byd,
A d'wedyd dy gynneddfau.
Google