3 Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,
Dy Dduw tragywydd Sion;
O oes i oes pery dy lwydd,
Molwch yr Arglwydd tirion.
147.
M. C. C.
1 MOLWCH yr Arglwydd; can's da yw
Canu i Dduw yn llafar;
O herwydd hyfryd yw ei glod,
A da yw bod yn ddiolchgar.
2 Caersalem ddinas gyflawn fydd,
Yr Arglwydd sydd i'w darpar;
Gan gasglu Israel yn nghyd,
A fu trwy'r byd ar wasgar.
148.
M. 6. 6.8.
1 Y GREADIGAETH gref,
2
3
Pob anian a phob byw;
Yn uchelderau 'r nef,
Yr holl angelion gwiw;
Haul, lloer, a ser, goleuni llon,
Molwch yr Arglwydd ger ei fron.
Molianned nef y nef,
A'r wybren sy 'n rhoi maeth,
Ei enw sanctaidd ef;
A'i air, o ddim, fe'u gwnaeth;
Eu cynnal mae, o oes i oes,
A chadw maent y ddeddf a roes.
Gwyr ieuainc, hardd eu gwedd,
A'r holl wyryfon glân,
Hen bobl yn min y bedd,
Plant bach yn llon eu cân:
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/69
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
