Clodforent enw 'r Arglwydd Dduw,
Ef o bob mawredd teilwng yw.
Ei unig enw ef
Yn dderchafadwy sydd;
Uwch daear, uwch y nef,
Hyd byrth ei fawredd fydd:
Efe yw nerth a mawl ei saint,
Pobl agos ato, mawr eu braint.
149.
M. C. C.
1 CENWCH i'r Arglwydd, ac iawn fydd,
Ryw ganiad newydd rhyfedd;
A chlywer yn nghyn'lleidfa'r saint
Ei fawr fraint a'i orfoledd.
150.
M. 7.6-7.
1 MOLWCH Dduw, sy Frenin fry,
A'i lysoedd ar y llawr;
Molwch Dduw y cariad cu,
Gan ei gyhoeddi 'n fawr:
Am ei holl weithredoedd mad,
A'i gadernid molwch ef;
Am ei ddoniau rhyfedd rhad,
Molianned dae'r a nef.
2 O canmolwch dros y byd,
Emmanuel a'i ddawn;
A chyhoeddwch ef o hyd,
Yn Dduw y lluoedd llawn:
Molwch ef â thannau per,
A nefolaidd gelfydd gân;
Gwnawn beroriaeth i Dduw Ner,
Peroriaeth calon lân.
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/70
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
