Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

HYMNAU.
1.
M. 8.8.8.
DYDDANWCH YR YSBRYD.
1 A RAID i gystudd garw'r groes
Orthrymu f' ysbryd ddydd a nos?
Os rhaid gwna fi yn foddlawn iawn:
Tan ganu gwna im' fyn'd yn mlaen,
Sef canu yn y dwfr a'r tân,
O fore 'mywyd hyd bryd nawn.
2 'Rwy'n cofio gair fy Iesu mawr,
Y doi'r Dyddanydd ata 'i lawr,
Na chawn i farw o dristwch mwy:
O Dduw, cyflawna d'air i ben;
Rho im' Arweinydd is y nen,
Ddangoso'r ffordd, iachao 'nghlwy."
2.
-
2
M. 2. 8.
LLWYDDIANT YR EFENGYL.
ED, aed,
ΑΕ
A
Y newydd am ei werthfawr waed,
Nes golchi myrdd o'r duaf gaed,
O'u pen i'w traed yn lân a gwyn,
Fel byddo nef a daear las,
Yn dadgan gras Calfaria fryn.
Mawr, mawr,
Yw grym llewyrchiad nefol wawr,
Try 'r nos yn ddydd i blant y llawr;
Google