2 Mae blodau 'n tarddu ar y llawr,
Grasusau pur y nef,
3
7.
1
Oll yn arogli 'n beraidd iawn
Oddiwrth ei wisgoedd ef.
Mae turtur yr efengyl fwyn
Yn galw bro a bryn;
Doed torf aneirif tua'r wlad
Gyda'r awelon hyn.
M. 10AU.
IAWN CRIST.
63
A GORWYD teml yr Arglwydd yn y nef,
A gwelwyd arch ei lán gyfammod ef;
Holl ryfeddodau person Crist a'i waith
A welir yno i dragwyddoldeb maith.
2 Cyfiawnder Duw sydd yno 'n ddysglaer
iawn,
A'r gyfraith bur bob iot o honi 'n llawn;
Ond i bechadur melus yw y sain,
Fod trugareddfa hefyd rhwng y rhai 'n.
3 Y tanllydd gledd fu'n effro iawn cyn hyn,
Taranau a mellt ofnadwy Sinai fryn,
Sy'n awr yn dawel yn yr Arch ddi lyth,
Y gair Gorphenwyd' a'u tawelodd byth.
4 Priodoliaethau'r nefoedd yn gytûn
Sydd yno 'n gwenu ar golledig ddyn;
Mae hedd yn awr o'r nef i'r llawr yn lli,
A noddfa gref o fewn y nef i ni.
8.
M. B.
ANGAU CRIST.
'I am fy meiau i
'A'
Α'
Dyoddefodd Iesu mawr,
Pan ddaeth yn ngrym ei gariad ef
O entrych nef i lawr ?
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/75
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
