14.
M. 7.6.
GOGONIANT CRIST.
1 ANGELION doent yn gysson,
gwlith y wawr,
Rhoent eu coronau euraid
O flaen y fainc i lawr:
Chwareuent â'u telynau
Yn nghyd â'r saint yn un,
Fyth, fyth, ni chanant ddigon
Am Dduwdod yn y dyn.
2 Yn angau 'r groes yn unig
Mae 'm iachawdwriaeth lawn;
Ac am y groes mi ganaf,
O fore hyd bryd nawn;
'Does ond yr aberth hwnw
Wnaed ar Galfaria fryn,
A'm crëa oll o newydd,
A'm càna oll yn wyn.
15.
1
M. C.
Y FORDAITH YSBRYDOL.
AR for tymmestlog teithio 'r wyf
I fyd sydd well i fyw,
Gan wenu ar ei stormydd oll;
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
2 Drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
A rhwystrau o bob rhyw,
I'm dygwyd, eisioes, ar fy nhaith;
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
3 Er cael fy nhaflu o dòn i dòn,
Nes ofni bron cael byw;
Diangol ydwyf, hyd yn hyn;
Fy Nhad sydd wrth y llyw.