Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

73
HYMNAU.
Dyged swn dy ddyoddefiadau
Fy serchiadau oll yn lân:
Mae dy gariad
Uwch y clywodd neb erioed.
2 O na chawn ddifyru 'nyddiau
Llwythog tan dy werthfawr groes,
A phob meddwl wedi ei glymu
Wrth dy Berson ddydd a nos:
Byw bob mynyd
Mewn tangnefedd pur a hedd.
3 Mae rhyw hiraeth yn fy nghalon
Am ddiengi o dwrf y byd;
Gwel'd y dyddiau collai 'ngolwg
Ar bob tegan ynddo yn nghyd;
Cael ymborthi
Fyth ar sylwedd pur y nef.
26.
1
M. 8.8.8.
Y CRISTION YN DDYEITHR-DDYN AR
Y DDAEAR.
ARWEINYDD pererinion blin,
Sy 'n teithio tua 'r nefoedd fry,
O'th le dysgleirwych tyr'd i lawr,
A gwna dy drigfan gyda ni;
Cynnal ni ar ein taith o hyd,
Nes dyfod i'th orphwysfa glyd.
2 Dyeithriaid ar y ddaear hon,
Nid yma mae 'n trigianol le:
Brysiwn trwy'r anial fyd i'r làn,
I'n cartref tawel yn y ne';
Lle mae trigfanau pur ein Tad
Yn lloni 'r nefol Ganaan wlad.
Google