Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

27.
HYMNAU.
M. C.
O DDUW, NA WRTHOD FI.
1 AT un a wrendy weddi'r gwan,
'R wyf yn derchafu 'nghri;
Yn mhob cyfyngder, ing, a phoen,
O Dduw, na wrthod fi.
2 Er mor annheilwng o fwynâu
Dy bresennoldeb di,
A haeddu 'mwrw o ger dy fron,
O Dduw, na wrthod fi.
3 Pan fo'm cydnabod is y nen
Yn cefnu arna'i 'n rhi,
A char a chyfaill yn pellâu,
O Dduw, na wrthod fi.
4 Er mwyn dy grog a'th angau drud
Ar fynydd Calfari,
A'th ddwys eiriolaeth yn y nef,
O Dduw, na wrthod fi.
5 Pan yn wynebu ymchwydd yr
Iorddonen ddofn ei lli',
A theithio 'n unig trwy y glyn,
O Dduw, na wrthod fi.
6 A phan y deui yr ail waith
Mewn mawredd, parch, a bri,
I farnu 'r byw a'r marw yn nghyd,
O Dduw, na wrthod fi.
28.
1
M. C.
AFON GRAS.
A WN, bechaduriaid, at y dwfr
A darddodd ar y bryn,
Ac ni gawn yfed fyth, heb drai,
O'r ffrydiau gloyw hyn.
Google